Chwith Weriniaethol Catalwnia | |
---|---|
Ideoleg | Asgell-chwith/Annibyniaeth |
Sefydlwyd | 1931 |
Arweinydd presennol | Oriol Junqueras |
Grŵp Senedd Ewrop | Gwyrdd-Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA) |
Gwefan | http://www.esquerra.cat/ |
Plaid genedlaetholgar, adain-chwith[1] yn anelu at annibyniaeth Catalwnia yw'r Esquerra Republicana de Catalunya (Catalaneg), yn golygu Chwith Weriniaethol Catalwnia. ERC neu Esquerra (Chwith) yn fyr.[2][3]
Mae canran uchel o aelodaeth Esquerra, fel nifer o bleidiau Catalanaidd eraill sy'n ceisio annibyniaeth, o'r farn nad Cymuned Ymreolaethol Catalwnia yn unig sy'n ffurfio'r genedl Gatalanaidd, ond hefyd y tiriogaethau eraill lle siaredir Catalaneg, a elwir y Països Catalans ("Y Gwledydd Catalanaidd’’). Maent yn cynnwys y rhan fwyaf o Wlad Falensia , yr Ynysoedd Balearig, rhan o Aragón a Rosellón yn Ffrainc, a elwir yn Ogledd Catalwnia. Mae Esquerra yn sefyll yn etholiadau neu â phresenoldeb trwy’r ardaloedd yma.[4]
Arweinydd presennol y blaid yw Oriol Junqueras, mae gan ERC aelodau yng Nghyngres a Senedd Sbaen a Parlament de Catalunya (Senedd Catalwnia). Mae ei dau aelod o Senedd Ewrop sydd yn eistedd yn grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop) gyda chynrychiolwyr pleidiau gwyrddion a chefnogwyr annibyniaeth o sawl gwlad yn cynnwys Plaid Cymru a'r SNP.