Gweriniaeth Ddemocrataidd Ffederal Ethiopia የኢትዮጵያ ፌዴራላዊ ዴሞክራሲያዊ ሪፐብሊክ (Amhareg) | |
Arwyddair | Gwlad y tarddu |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gwlad dirgaeedig |
Prifddinas | Addis Ababa |
Poblogaeth | 128,691,692 |
Sefydlwyd | 1931 (Cyfansoddiad 1af) 22 Chwefror 1987 (Gweriniaeth Ddemocrataidd y Bobl) |
Anthem | Ymlaen, Fam Annwyl Ethiopia! |
Pennaeth llywodraeth | Abiy Ahmed |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Amser Dwyrain Affrica, Affrica/Asmara |
Nawddsant | Siôr |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Amhareg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica |
Gwlad | Ethiopia |
Arwynebedd | 1,104,300 km² |
Yn ffinio gyda | Swdan, De Swdan, Cenia, Somalia, Jibwti, Eritrea, Y Cynghrair Arabaidd, Somaliland |
Cyfesurynnau | 9°N 40°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Ethiopia |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Seneddol Ffederal |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Ethiopia |
Pennaeth y wladwriaeth | Taye Atske Selassie |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Ethiopia |
Pennaeth y Llywodraeth | Abiy Ahmed |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $111,262 million, $126,783 million |
Arian | bir |
Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 4.395 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.498 |
Gwlad tirgaeedig yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Ffederal Ethiopia neu Ethiopia; yr hen enw Cymraeg iddi oedd Abyssinia[1]. Mae'n ffinio ag Eritrea i'r gogledd, Swdan a De Swdan i'r gorllewin, Cenia i'r de a Somalia a Jibwti i'r dwyrain. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd y boblogaeth yn 128,691,692 (2023)[2]; Addis Ababa yw'r brifddinas, ac mae ganddi hithau boblogaeth o 5,228,000 (2022).
Mae gan Ethiopia arwynebedd o 1,100,000 km sgwar (420,000 milltir sgwar). Mae'n gartref i 117 miliwn o drigolion (dwywaith maint gwledydd Prydain yn y 2020au; hi felly yw'r 12fed wlad fwyaf poblog yn y byd a'r ail fwyaf poblog yn Affrica ar ôl Nigeria.[3] Gorwedd y brifddinas genedlaethol (a'r ddinas fwyaf), Addis Ababa, sawl cilomedr i'r gorllewin o Rift Dwyrain Affrica sy'n hollti'r wlad yn blatiau tectonig gwahanol: platiau tectonig Affrica a Somalia.[4]