Enghraifft o'r canlynol | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 31 Mawrth 1966 |
Rhagflaenwyd gan | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1964 |
Olynwyd gan | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1970 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Galwyd etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966 ar y 31 Mawrth, 1966 gan y prifweinidog ar y pryd: Harold Wilson. Dychwelwyd y Llywodraeth Lafur gyda mwyafrif o 96 Aelod Seneddol.[1] Gwnaeth y penderfyniad hwn i alw etholiad am sawl rheswm; yn gyntaf, dim ond 17 mis ynghynt yr etholwyd ei blaid i lywodraethu ac oherwydd y mwyafrif bychan oedd ganddo, roedd llywodraethu'n fwrn ac yn anodd. 4 aelod seneddol oedd ei fwyafrif. Yn ail, cafwyd isetholiad yng Ngogledd Hull ychydig ynghynt. Roedd yn llygad ei le ac etholwyd y Blaid Lafur yn eu holau - gyda mwyafrif o 96. Noda gwefan y BBC fwyafrif o 363 seats, sy'n rhoi mwyafrif o 96, gan fod sedd y LLefarydd yn cael ei restru fel "Arall".[2]
Darlledwyd y noson yn fyw gan y BBC a chyflwynwyd y noson gan Cliff Michelmore, Robin Day, Robert McKenzie a David Butler.[1]