Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997

Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997
               
← 1992 1 Mai 1997 2001 →

Pob un o'r 659 sedd yn y Tŷ Cyffredin.
Nifer a bleidleisiodd71.3%
  Plaid cyntaf Yr ail blaid Y drydedd blaid
 
Arweinydd Tony Blair John Major Paddy Ashdown
Plaid Llafur Ceidwadwyr Y Democratiaid Rhyddfrydol
Arweinydd ers 21 Gorffennaf 1994 28 Tachwedd 1990 16 Gorffennaf 1988
Sedd yr arweinydd Sedgefield Huntingdon Yeovil
Etholiad diwethaf 271 sedd, 34.4% 336 sedd, 41.9% 20 sedd, 17.8%
Seddi cynt 271 343 18
Seddi a enillwyd 418 165 46
Newid yn y seddi increase145* Decrease178*
Pleidlais boblogaidd 13,518,167 9,600,943 5,242,947
Canran 43.2% 30.7% 16.8%
Gogwydd increase8.8 Decrease11.2 Decrease1.0

Mae'r lliwiau'n dynodi'r pleidiau llwyddiannus.
Ni chynhwyswyd Gogledd Iwerddon

* Newidiwyd y ffiniau

^ Nid yw'r rhifau yma'n cynnwys Y Llefarydd

PM cyn yr etholiad

John Major
Ceidwadwyr

PW wedi'r etholiad

Tony Blair
Llafur

Warning: Page using Template:Infobox election with unknown parameter "next_mps" (this message is shown only in preview).

Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997 ar 1 Mai 1997. Canlyniad yr etholiad oedd newid llywodraeth am y tro cyntaf ers deunaw mlynedd, gyda'r Blaid Lafur dan arweiniad Tony Blair yn ennill mwyafrif mawr dros y Blaid Geidwadol dan arweiniad John Major. Enillodd Llafur 66% o'r seddau yn Nhy'r Cyffredin, gyda mwyafrif o 179, eu mwyafrif mwyaf erioed. Collodd y Ceidwadwyr bob sedd oedd ganddynt tu allan i Loegr, ac roedd eu cyfanswm o seddau yr isaf ers dyddiau Dug Wellington. Collodd nifer o wleidyddion amlwg y blaid eu seddau, yn cynnwys Michael Portillo, Malcolm Rifkind, Michael Forsyth, William Waldegrave, Edwina Currie, Norman Lamont a David Mellor. Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol y nifer uchaf o seddau iddynt hwy neu'r Rhyddfrydwr eu hennill ers dyddiau David Lloyd George.

Yng Nghymru cadwodd Plaid Cymru eu gafael ar eu pedair sedd, tra gadawyd y Ceidwadwyr heb unrhyw sedd yng Nghymru. Yn yr Alban enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban dair sedd i ddyblu eu nifer o seddau i 6. Pleidleisiodd 31,286,284 (71.2%).

Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997
Plaid Seddi Etholiadau %
Plaid Lafur
418
13,518,167
43.2
Plaid Geidwadol
165
9,600,943
30.7
Democratiaid Rhyddfrydol
46
5,242,947
16.8
Plaid Unoliaethol Ulster
10
258,349
0.8
Plaid Genedlaethol yr Alban
6
621,550
2.0
Plaid Cymru
4
161,030
0.5
SDLP
3
190,814
0.6
Sinn Fein
2
126,921
0.4
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
2
107,348
0.3
Unoliaethwyr y DU
1
12,817
0.1
Llefarydd
1
23,969
0.1
Annibynnol
1
64,482
0.1

Developed by StudentB