Enghraifft o'r canlynol | ffenomen naturiol |
---|---|
Math | nifer (diddimensiwn) |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Falens yw mesur o’r modd mae atomau cemegol elfennol yn cysylltu â’i gilydd i ffurfio molecylau[1]. Bu darganfod y priodoledd hwn yn rhan bwysig o ddatblygiad y ganfyddiaeth fodern o atom a moleciwl. Gwyddom, bellach, bod falens yn ddibynnol ar batrwm electronau atomau.
Yn fuan wedi datblygu’r syniadau o elfennau cemegol, trwy arbrofion gofalus, daeth i’r amlwg eu bod yn cyfuno a'i gilydd yn gyson ac yn gyfraneddol. Yn 1789 cyhoeddodd y cemegydd o Iwerddon William Higgins[2] ei syniadau am gyfuniad “ronynnau eithaf” a rhagfynegodd y disgrifiad ffurfiol gyntaf gan y cemegydd o Loegr Edward Frankland[3] yn 1852. Gydag esboniad Ernest Rutherford o strwythur yr atom bu modd i’r Americanwr Gilbert Lewis[4], yn 1916, esbonio falens yn nhermau tueddiad atomau (brif grŵp) i gasglu wyth electron mewn plysg falens pan fyddant yn cyd-gysylltu, neu ffurfio ionau. Er enghraifft, trwy ranni un electron mae atom sodiwm (sydd ag un electron yn ei orbit falens) yn cydweithio ag atom clorin (sydd a saith) i ffurfio dwy ion (Na+ a Cl-) ag wyth electron yn eu horbitau falens. Yn yr un modd mae pedwar atom hydrogen, sydd ag un electron, yn cyfrannu’r pedwar electron sydd eu hangen i osod wyth electron yn orbit falens atom carbon mewn moleciwl o fethan. (Dau electron, yn hytrach nag wyth, sy’n llenwi plysg falens atomau hydrogen a heliwm.)