Enghraifft o'r canlynol | automobile racing series, pencampwriaeth y byd |
---|---|
Math | formula racing |
Dechrau/Sefydlu | 1950 |
Prif weithredwr | Stefano Domenicali |
Gweithredwr | Formula One Group |
Gwefan | https://www.formula1.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fformiwla Un yw'r dosbarth uchaf o rasio ceir sydd wedi ei rheoli gan y Fédération Internationale de l'Automobile (FIA). Mae'r term fformiwla yn cyfeirio at set o reolau mae rhaid i bob cystadleuydd a char cydymffurfio gyda. Mae'r tymor yn cynnwys cyfres o rasys, neu Grands Prix, sydd yn digwydd yn bennaf ar gylchffyrdd, ond hefyd ar nifer bach o strydoedd cyhoeddus sydd wedi eu cau. Mae canlyniadau pob ras yn cyfri tuag at ddwy Bencampwriaeth y Byd blynyddol, un ar gyfer gyrwyr a'r llall ar gyfer cynhyrchwyr.
Mae ceir Fformiwla Un yn medru cyrraedd cyflymder uchel, hyd at 360 km/a (220 milltir yr awr). Mae'r ceir yn gallu tynnu mwy na 5 G-force yn rhai corneli. Mae'r perfformiad y ceir yn dibynnu llawer ar electroneg (er mae rhai cymhorthion gyrwr wedi ei gwahardd ers 2007), aerodynameg, hongiadau a theiars. Mae'r fformiwla wedi gweld llawer o esblygiadau a newidiadau yn ystod ei hanes.
Cychwynodd Fformiwla un ar Mai 17 yn 1950 ac wedi parhau hefo o leiaf 7 ras wedi'i chynal bob blwyddun ers hynny.