Enghraifft o'r canlynol | cyflwr meddyliol |
---|---|
Math | credo |
Y gwrthwyneb | anghrediniaeth, amheuaeth |
Rhan o | rhinweddau diwynyddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cred cadarn, wirioneddol mewn person, syniad neu rhywbeth arall ydy ffydd. Mae'r gair "ffydd" yn gallu cyfeirio at grefydd arbennig neu at grefydd yn gyffredinol, er enghraifft "mae gen i fy ffydd bersonol". Fel gyda "hyder", mae ffydd yn cynnwys syniad o ddigwyddiadau sydd i ddod a gallu'r unigolyn i'w cyrraedd neu eu cyflawni, a defnyddir yn wrthwyneb am gred "sydd ddim yn dibynnu ar brawf rhesymegol neu dystiolaeth faterol."[1][2] Mae'r defnydd anffurfiol o'r gair "ffydd" yn medru bod braidd yn llydan, a gellir ei ddefnyddio yn lle "ymddiriedolaeth" neu "gred."
Defnyddir ffydd yn aml mewn cyd-destun crefyddol, fel gyda diwinyddiaeth, lle mae'n cyfeirio braidd yn gyffredinol at gred ymddiried mewn realiti trosgynnol, neu amgen mewn Endid Goruchaf a/neu rôl yr endid hwn mewn trefn o bethau trosgynnol, ysbrydol.
Yn gyffredinol, perswâd y meddwl bod datganiad sicr yn gywir yw ffydd.[3] Mae'r gair yn tarddu o'r Lladin fidem, neu fidēs, sydd yn golygu "ffydd", a'r ferf "fīdere", sydd yn golygu "ymddiried".[4]