Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth ar y rhyngrwyd, dull o ddosbarthu cynnyrch neu nwyddau |
---|---|
Math | darlledu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae fideo ar alw (Video on demand neu VOD) yn system ddosbarthu gwahanol gyfryngau megis ffilm, ac sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad i fideos heb ddyfais chwarae fideo draddodiadol a chyfyngiadau amserlen ddarlledu. Yn yr 20g, darlledu dros yr awyr oedd y math mwyaf cyffredin o ddosbarthu cyfryngau fel radio a theledu ond wrth i dechnoleg y rhyngrwyd ac IPTV barhau i ddatblygu yn y 1990au, dechreuodd defnyddwyr wyro tuag at ddulliau anhraddodiadol o ddefnyddio cynnwys, a arweiniodd at ddyfodiad VOD ar setiau teledu a chyfrifiaduron personol.[1]
Yn wahanol i ddarlledu traddodiadol, roedd systemau fideo ar-alw yn ei gwneud yn ofynnol i ddechrau i bob defnyddiwr gael cysylltiad rhyngrwyd gyda lled-band sylweddol i gael mynediad i'r cynnwys. Yn 2000, datblygodd Sefydliad Fraunhofer IIS[2] y codec JPEG2000, a'i gwnaeth hi'n bosib dosbarthu ffilmiau trwy Becynnau Sinema Digidol (Digital Cinema Packages). Ers hynny mae'r dechnoleg hon wedi gwella ac ehangu i gynnwys rhaglenni teledu a ddarlledir ac mae wedi arwain at ofynion lled-band is ar gyfer cymwysiadau fideo ar-alw. Yn dilyn hynny lansiodd Disney, Paramount, Sony, Universal a Warner Bros y Fenter Sinema Ddigidol, yn 2002.[3]
Gall systemau fideo ar-alw teledu ffrydio cynnwys, naill ai drwy flychau aml-gyfryngol (set-top boxes) traddodiadol neu drwy ddyfeisiau o bell (remote) fel cyfrifiaduron, tabledi a ffonau clyfar. Gall defnyddwyr fideo ar-alwad lawrlwytho cynnwys yn barhaol i ddyfais fel cyfrifiadur neu chwaraewr cyfryngau cludadwy fel y ffôn i'w wylio'n barhaus. Mae mwyafrif y darparwyr teledu cebl a ffôn yn cynnig ffrydio fideo ar alw, lle mae defnyddiwr yn dewis rhaglen fideo neu ffilm sy'n dechrau chwarae ar unwaith, neu, hyd at y 2010au i DVR a oedd yn cael ei rentu neu ei brynu gan y darparwr, neu i gyfrifiadur personol neu ddyfais gludadwy ar gyfer gwylio unrhyw bryd.
Mae cyfryngau ffrydio wedi dod i'r amlwg fel cyfrwng cynyddol boblogaidd o ddarparu fideo ar-alw. Ceir cymwysiadau fel storfa gynnwys ar-lein Apple iTunes ac apiau Smart TV fel Amazon Prime Video sy'n caniatáu rhentu dros dro a phrynu cynnwys adloniant fideo. Mae systemau VOD eraill ar y Rhyngrwyd yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at fwndeli o gynnwys adloniant fideo yn hytrach na ffilmiau a sioeau unigol. Ymhlith y systemau mwyaf cyffredin y mae, Netflix, Hulu, Disney +, Peacock, HBO Max a Paramount +, sy'n defnyddio model tanysgrifio sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dalu taliad misol am fynediad i ddetholiad o ffilmiau, sioeau teledu, a chyfresi gwreiddiol. Mewn cyferbyniad, mae YouTube, system VOD arall sy'n seiliedig ar y Rhyngrwyd, yn defnyddio model a ariennir gan hysbysebu lle gall defnyddwyr gyrchu'r rhan fwyaf o'i gynnwys fideo yn rhad ac am ddim ond mae'n rhaid iddynt dalu ffi tanysgrifio ar gyfer cynnwys premiwm gyda llai o hysbysebion. Mae rhai cwmnïau hedfan yn cynnig gwasanaethau fideo ar alw i deithwyr awyrenau trwy sgriniau fideo wedi'u gosod mewn seddi neu chwaraewyr cyfryngau cludadwy.[4]
Adroddwyd bod y pandemig wedi cyfrannu at drawsnewid dosbarthiad ffilmiau o blaid PVOD dros dai ffilm traddodiadol, gan fod stiwdios yn gallu gwireddu 80% o refeniw trwy PVOD yn erbyn 50% o dderbyniadau swyddfa docynnau theatr draddodiadol. Mae perchnogion theatr o AMC a Cinemark i IMAX a National CineMedia i gyd wedi profi colled ariannol difrifol oherwydd y cau i lawr. [5]