Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bern, Valais |
Gwlad | Y Swistir |
Uwch y môr | 4,274 metr |
Cyfesurynnau | 46.53747°N 8.12603°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 2,279 metr |
Rhiant gopa | Mont Blanc |
Cadwyn fynydd | Finsteraarhorn-Oberaarhorn-Galmihorn Group |
Y Finsteraarhorn (4,274 metr (14,022 troedfedd)) yw'r mynydd uchaf yn yr Alpau Bernaidd yn y Swistir a chopa enwocaf y Swistir. Y Finsteraarhorn yw'r nawfed mynydd uchaf, a'r trydydd copa amlycaf, yn yr Alpau. Yn 2001 dynodwyd y massif a'r rhewlifoedd sy'n ei amgylchynu yn rhan o Safle Treftadaeth Byd Jungfrau-Aletsch.
Mae esgyniad cyntaf y Finsteraarhorn wedi bod yn destun dadleuol. Dywedir fod y copa wedi'i gyrraedd am y tro cyntaf gan y gwŷr lleol Arnold Abbühl, Joseph Bortes and Aloys Volker yn 1812, ond bu rhai yn amau hynny.[1][2]
Mewn erthyglau a gyhoeddwyd yn 1881 a 1908, bu i'r mynyddwyr a haneswyr Gottlieb Studer [2] a W.A.B. Coolidge,[3] ddatgan eu bod yn argyhoeddiedig o lwyddiant ymgais 1812. Serch hynny, daeth John Percy Farrar i'r casgliad mewn erthygl a gyhoeddodd yn yr Alpine Journal yn 1913 mai cyrraedd man oedd tua 200m i'r de o'r copa wnaeth y dringwyr hynny, ond gan bwysleisio bod honno'n dipyn o gamp yn ei dydd.[1]
John Clough Williams-Ellis oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd y copa, yn ôl pob tebyg.[4] Dringodd y mynydd Awst 13, 1857, yng nghwmni John Frederick Hardy, William Mathews, Benjamin St John Attwood-Mathews a Edward Shirley Kennedy, ynghyd â Auguste Simond a Jean Baptiste Croz o Chamonix, Johann Jaun yr Hynaf o Meiringen, Aloys Bortis o Fiesch a'r porthor Alexander Guntern o Biel yn Goms. Roedden nhw'n gadael Konkordiaplatz am 2:30 yp, ac yn cyrraedd y copa am 11:53 yh. Ar gopa'r Finsteraarhorn, penderfynodd y dringwyr sefydlu cymdeithas a'i galw yn y Clwb Alpaidd.