Enghraifft o'r canlynol | llwyth, grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Math | Germaniaid, llwyth, Gothiaid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y Fisigothiaid (Gothiaid Gorllewinol) yn un o'r ddwy brif gangen o'r Gothiaid; yr Ostrogothiaid oedd y llall.
Yn 410 cipiwyd Rhufain gan fyddin Fisigothaidd dan arweiniad eu brenin Alaric I. Wedi cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, yr oedd y Fisigothiaid yn un o bwerau mawr Ewrop am gyfnod o ddwy ganrif a hanner.
Rhwng 407 a 409 roedd y Fandaliaid, gyda chymorth yr Alaniaid, wedi concro rhan helaeth o Sbaen. Gofynnodd yr ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, Honorius, am gymorth y Fisigothiaid i adennill y tiriogaeth, ac wedi iddynt lwyddo, rhoddodd diriogaeth iddynt yn Gallia Aquitania fel gwobr. Yn 475, llwyddodd eu brenin Euric i orfodi'r Rhufeiniaid i gydnabod annibyniaeth teyrnas y Fisigothiaid. Erbyn 500 roedd Teyrnas y Fisigothiaid, gyda'r brifddinas yn Toulouse, yn rheoli Aquitania, Gallia Narbonensis a'r rhan fwyaf o Sbaen, neu Hispania. Yn 507 gorchfygwyd hwy gan y Ffranciaid dan Clovis I. Lladdwyd eu brenin Alaric II a chollasant eu gafael ar Aquitaine. Symudwyd canolfan y deyrnas i Barcelona, ac yna i Toledo. O 511 hyd 526, roedd y Fisigothiaid mewn cynghrair â'r Ostrogothiaid dan Theodoric Fawr.
Yn 554, collwyd Granada a rhan ddeheuol Hispania Baetica i'r Ymerodraeth Fysantaidd, ond erbyn 624 roedd y Fisigothiaid wedi adennill y tiriogaethau hyn. Yn 711, lladdwyd y brenin Roderic (Rodrigo) wrth wynebu ymosodiad Mwslemaidd ym Mrwydr Guadalete, ac erbyn 718 roedd y rhan fwyaf o Sbaen yn eiddo'r Mwslimiaid fel rhan o Al Andalus.
Symudodd llawer o'r Fisigothiaid tua'r gogledd, gan ffurfio Teyrnas Asturias yng ngogledd Sbaen, a bu gan eraill ran bwysig yn ymerodraeth Siarlymaen ychydig yn ddiweddarach.