Frances Stevenson | |
---|---|
Toriad papur newydd gyda'r capsiwn: "A Private Secretary to Mr. Lloyd George: Miss F.L. Stevenson" | |
Ganwyd | 7 Hydref 1888 Llundain |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1972 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dyddiadurwr |
Tad | John Stevenson |
Priod | David Lloyd George |
Plant | Jennifer Mary Stevenson |
Gwobr/au | CBE |
Roedd Frances Stevenson, Iarlles Lloyd-George o Ddwyfor, CBE (7 Hydref 1888 – 5 Rhagfyr 1972) yn feistres, yn ysgrifennydd personol ac yn ail wraig i Aelod Seneddol Caernarfon a Phrif Weinidog Prydain David Lloyd George.[1] Ganwyd Frances Stevenson yn Llundain. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Clapham a Choleg Brenhinol Holloway, lle graddiodd gyda gradd yn y Clasuron ym 1910.
Cyfarfu Frances â Lloyd George yn 1910 a'r flwyddyn ddilynol, pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys, cyflogodd Stevenson fel tiwtor preifat ar gyfer ei merch ieuengaf Megan.
Ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Margaret, gwraig cyntaf Lloyd George, fe briododd â Frances ar 23 Hydref 1943, er gwaethaf anghymeradwyaeth ei blant o'i briodas gyntaf.[2] Llai na deunaw mis yn ddiweddarach, bu farw Lloyd George ar 26 Mawrth, 1945.