Friedrich Engels

Friedrich Engels
Ganwyd28 Tachwedd 1820 Edit this on Wikidata
Barmen Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 1895 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Berlin Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, gwyddonydd cymdeithasol, damcaniaethwr gwleidyddol, athronydd, llenor, chwyldroadwr, cymdeithasegydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, newyddiadurwr, entrepreneur, hanesydd, awdur Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Maniffesto Comiwnyddol, The German Ideology, Socialism: Utopian and Scientific Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHeraclitos, Ludwig Feuerbach, The Essence of Christianity, Karl Marx, Georg Hegel, Adam Smith, Max Stirner, David Ricardo Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCommunist League Edit this on Wikidata
TadFriedrich Engels Edit this on Wikidata
MamElisabeth Franziska Mauritia van Haar Edit this on Wikidata
PartnerMary Burns Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd a sosialydd o'r Almaen oedd Friedrich Engels (28 Tachwedd 18205 Awst 1895). Cyd-ysgrifennodd Y Maniffesto Comiwnyddol (1848) gyda Karl Marx.

Ganwyd yn Barmen, talaith y Rhein, ym Mhrwsia. Cychwynnodd ar yrfa fusnes yn Bremen, ac yn ei amser hamdden fe fagodd ddiddordeb yng ngweithiau'r "Almaenwyr Ifainc" (gan gynnwys Ludwig Börne, Karl Gutzkow, a Heinrich Heine) ac, yn ddiweddarach, yr "Hegeliaid Ifainc" (megis Bruno Bauer a Max Stirner). Trodd Engels yn anffyddiwr ac yn chwyldroadwr yn athroniaeth y dilechdid Hegelaidd, a chyhoeddodd erthyglau dan yr enw Friedrich Oswald. Gwasanaethodd am un flwyddyn mewn catrawd fagnelau ym Merlin, ac yno fe fynychodd ddarlithoedd yn y brifysgol.

Gadawodd y fyddin ym 1842. Bu'n cwrdd â Moses Hess, a chafodd Engels ei berswadio ganddo i droi'n gomiwnydd a symud i Loegr. Treuliodd ei ddyddiau ym Manceinion yn y swyddfa fusnes, a'i nosweithiau yn y llyfrgell yn ymchwilio i'r amodau economaidd a gwleidyddol yn Lloegr. Cyfranodd erthyglau i gylchgronau yn Lloegr ac ar y cyfandir, gan gynnwys y Deutsch-Französische Jahrbücher dan olygyddiaeth Karl Marx ym Mharis. Cafodd berthynas glos â'r Wyddeles Mary Burns, er na phriodasant. Yn sgil ei marwolaeth ym 1863, cafodd berthynas â'i chwaer Lizzy Burns, a phriodasant ym 1878 ychydig oriau cyn ei marwolaeth hi.

Dychwelodd Engels i Bremen a chyhoeddodd ei lyfr Die Lage der arbeitenden Klasse in England (1845). Cafodd gyfarfodydd â Marx ym Mharis, Brwsel, ac yn Lloegr. Roedd Engels yn un o sefydlwyr y Gynghrair Gomiwnyddol yn Llundain ym 1847.

Wedi marwolaeth Marx ym 1883, Engels a gyflawnodd y gwaith o olygu a chyhoeddi'r ail gyfrol a'r drydedd gyfrol o Das Kapital (1885, 1894). Bu farw Engels o ganser yn 74 oed.


Developed by StudentB