Rhan ogleddol Israel yw Galilea. Yn draddodadol, rhennir Galilea yn dri rhanbarth:
Mae Galilea yn ymestyn o Dan yn y gogledd, wrth droed Mynydd Hermon, i Carmel a Gilboa yn y de, ac o ddyffryn Afon Iorddonen hyd lannau Môr y Canoldir. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn fynyddig, gydag uchder o tua 500-700 medr, gyda nifer o fynyddoedd uwch megis Mynydd Tabor a Mynydd Meron.
Yn y cyfnod Rhufeinig, rhennid y wlad i ranbarthau Judea, Samaria a Galilea, y mwyaf o'r rhaniadau. Daeth Galilea yn enwog yn y cyfnod yma fel y fan lle magwyd Iesu o Nasareth a lle bu'n byw am bron y cyfan o'i fywyd. Yr adeg yma, rheolwr Galilea oedd Herod Antipas, mab Herod Fawr.