15eg Gemau'r Gymanwlad |
---|
|
Seremoni agoriadol | 18 Awst |
---|
Seremoni cau | 28 Awst |
---|
Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II |
---|
|
Gemau'r Gymanwlad 1994 oedd y pymthegfed tro Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Victoria, British Columbia, Canada oedd cartref y Gemau rhwng 18 - 28 Awst. Llwyddodd Victoria i ennill yr hawl i gynnal y Gemau yn ystod Gemau Olympaidd 1988 yn Seoul gan sicrhau 31 pleidlais, gyda New Delhi, India yn cael 17 a Chaerdydd 7.
Dychwelodd De Affrica i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1958 wedi i system apartheid ddod i ben yn y wlad, ymddangosodd Hong Cong am y tro olaf cyn i'r tiriogaeth adael y Gymanwlad ac ail ymuno â Tsieina a chafwyd athletwyr o Montserrat a Namibia am y tro cyntaf.