Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon, digwyddiad mewn cyfres |
---|---|
Dyddiad | 1938 |
Dechreuwyd | 5 Chwefror 1938 |
Daeth i ben | 12 Chwefror 1938 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Sydney |
Yn cynnwys | rowing at the 1938 British Empire Games |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gemau Ymerodraeth Prydain 1938 oedd y trydydd tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 5-12 Chwefror.
Trefnwyd y gemau i gyd fynd gyda dathlu 150 mlynedd ers y sefydliad Prydeinig swyddogol cyntaf yn Awstralia.
Oherwydd y dirwasgiad a chost teithio i Awstralia, ni chafwyd cymaint o athletwyr â gafwyd yng Ngemau Llundain, 1934 ac er na chafwyd unrhyw gynrychiolaeth o Hong Cong, Jamaica na Newfoundland cafwyd athletwyr o Ceylon a Ffiji am y tro cyntaf.
Cafodd cystadlaethau rhwyfo eu hychwanegu i'r Gemau ar ôl peidio cael eu cynnwys yn Llundain.
Penderfynwyd cynnal Gemau Ymerodraeth Prydain 1942 ym Montréal, Canada, a Gemau 1946 yng Nghaerdydd, Cymru ond oherwydd yr Ail Ryfel Byd, ni chynhaliwyd y Gemau eto tan 1950.