Yn hierarchaeth y dosbarthu, mae genws yn uwch na rhywogaeth ac yn is na theulu. O ran enwau deuol, mae genws yn ffurfio rhan gyntaf enw'r rhywogaeth e.e. mae Felis catus a Felis silvestris yn ddwy rywogaeth wahanol o fewn y genws Felis. Mae Felis, felly'n genws o fewn y teulu Felidae.
Mae'r union ddosbarthiad yn cael ei benderfynu gan dacsonomegwyr. Nid yw'r dosbarthiadau hyn wedi'u naddu mewn gwenithfaen, ac mae awdurdodau gwahanol yn aml yn nodi dosbarthiad gwahanol ar gyfer y genera. Ceir canllawiau ymarferol, fodd bynnag, er mwyn cysoni'r gwaith,[1] gan gynnwys y cysyniad y dylai unrhyw genws newydd fod yn driw i'r tri maen prawf canlynol:
monoffyletedd – rhoddir holl ddisgynyddion tacson mewn un grŵp[2]
cywasgu rhesymol - ni ddylid ehangu'r genws yn ddiangen
eglureder - fel arfer, yng nghyd-destun meini prawf sy'n ymwneud ag esblygiad, e.e. ecoleg, morffoleg neu bioddaearyddiaeth, ystyrir 'dilyniant y DNA' yn "ganlyniad" yn hytrach nag yn "gyflwr" llinellau newydd sy'n esblygu.[3]
↑Gill, F. B.; Slikas, B.; Sheldon, F. H. (2005). "Phylogeny of titmice (Paridae): II. Species relationships based on sequences of the mitochondrial cytochrome-b gene". Auk122 (1): 121–143. doi:10.1642/0004-8038(2005)122[0121:POTPIS]2.0.CO;2.
↑De la Maza-Benignos, M. , Lozano-Vilano, M.L., & García-Ramírez, M. E. (2015). Response paper: Morphometric article by Mejía et al. 2015 alluding genera Herichthys and Nosferatu displays serious inconsistencies. Neotropical Ichthyology, 13(4), 673-676.http://www.scielo.br/scielo.php?pid=S1679-62252015000400673&script=sci_arttext
↑De la Maza-Benignos, M., Lozano-Vilano, M. L., & García-Ramírez, M. E. (2015). Response paper: Morphometric article by Mejía et al. 2015 alluding genera Herichthys and Nosferatu displays serious inconsistencies. Neotropical Ichthyology, 13(4), 673-676.http://www.scielo.br/scielo.php?pid=S1679-62252015000400673&script=sci_arttext