Geoff Charles | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ionawr 1909 Brymbo |
Bu farw | 7 Mawrth 2002 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ffotograffydd, ffotonewyddiadurwr |
Tad | John Charles |
Mam | Jane Elizabeth Read |
Priod | Verlie Blanch George |
Ffotograffydd toreithiog o Gymru oedd Geoff Charles (28 Ionawr 1909 – 7 Mawrth 2002). Yn ystod ei oes tynnodd dros 120,000 o luniau ac fe'i cedwir yn ofalus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]
Mae cyfraniad Geoff Charles i ffotograffiaeth Cymru'n unigryw. Bu'n gweithio fel ffoto-newyddiadurwr o'r 1930au hyd at y 1970au a thrwy ei oes cofnododd ddigwyddiadau a phersonoliaethau y Gymru Gymraeg.[2]