George Berkeley | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mawrth 1685 Cill Chainnigh, Dysart Castle |
Bu farw | 14 Ionawr 1753 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, offeiriad Anglicanaidd, llenor, gwybodeg, athronydd gwyddonol, metaffisegydd, gweinidog yr Efengyl |
Swydd | Deon Derry, Deon Dromore, Esgob Cloyne |
Adnabyddus am | De Motu, An Essay Towards a New Theory of Vision, A Treatise Concerning the Principles of Human Knowledge, Three Dialogues between Hylas and Philonous, The Theory of Vision, or Visual Language, The Analyst, Siris, The Querist |
Prif ddylanwad | John Locke, Nicolas Malebranche |
Mudiad | Empiriaeth, Anfaterioliaeth |
Tad | William Berkeley |
Priod | Anne Forster |
Plant | Lucia Berkeley, Henry Berkeley, George Berkeley |
llofnod | |
Athronydd o Iwerddon ac Esgob Anglicanaidd Cloyne oedd George Berkeley (/ˈbɑːrkli/; 12 Mawrth 1685 – 14 Ionawr 1753). Roedd yn esboniwr blaenllaw ym maes athronyddol empiriaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddamcaniaeth o "immaterialism" ("anfaterioliaeth") sy'n gwadu bodolaeth sylwedd materol ac yn hytrach yn dadlau mai dim ond syniadau ym meddyliau canfyddwr yw gwrthrychau cyfarwydd fel byrddau a chadeiriau ac, o ganlyniad, na allant fodoli heb gael eu canfod.
Ym 1709, cyhoeddodd Berkeley ei waith mawr cyntaf, An Essay Towards a New Theory of Vision ("Traethawd ynglŷn â Damcaniaeth Newydd o Olwg"), lle bu’n trafod cyfyngiadau golwg ddynol a datblygu’r theori nad gwrthrychau materol yr ydym yn eu gweld, ond yn hytrach golau a lliw. Cyhoeddwyd ei brif waith athronyddol, A Treatise Concerning the Principles of Human Knowledge ("Traethawd ynghylch Egwyddorion Gwybodaeth Ddynol"), ym 1710. Cafodd hyn dderbyniad gwael gan y cyhoedd, felly fe'i hailysgrifennodd ar ffurf deialog a'i gyhoeddi o dan y teitl Three Dialogues between Hylas and Philonous ("Tair Ymgom rhwng Hylas a Philonous") ym 1713.