Llyfr am lwythau Germaniaidd yr Almaen gan yr hanesydd Rhufeinig Tacitus (c. 55 - 120 OC) yw'r Germania (teitl Lladin llawn: De origine et situ Germanorum, "Ynglŷn â dechreuad a daearyddiaeth yr Almaen"). Fe'i cyhoeddwyd gan yr hanesydd yn y flwyddyn 98 OC, yn ystod ail gonswlaeth yr ymerawdwr Trajan.
Yn ogystal â bod yn ddisgrifiad manwl ac amhrisiadwy o gymeriad ac arferion y Germaniaid a daearyddiaeth yr Almaen, mae gan y llyfr bwrpas didactig hefyd, gan ddyrchafu moes anlygredig y llwythau Germanaidd a'u cymharu ag eiddo Gweriniaeth Rhufain cyn dyddiau'r Ymerodraeth Rufeinig a'i moesau llac, dirywiedig.