Math | bwrdeistref yng Nghatalwnia |
---|---|
Prifddinas | Girona City |
Poblogaeth | 104,320 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Lluc Salellas i Vilar |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Narcissus of Girona, Felix of Girona |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Mancomunitat de Municipis Comunitat Turística de la Costa Brava, Q107554330 |
Sir | Gironès |
Gwlad | Catalwnia Sbaen |
Arwynebedd | 39.1 km² |
Uwch y môr | 70 metr |
Gerllaw | Ter, Onyar, Güell, Galligants |
Yn ffinio gyda | Juià, Quart, Sant Julià de Ramis, Sarrià de Ter, Celrà, Fornells de la Selva, Salt, Sant Gregori, Vilablareix |
Cyfesurynnau | 41.9833°N 2.8167°E |
Cod post | 17000–17007 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Girona |
Pennaeth y Llywodraeth | Lluc Salellas i Vilar |
Girona yw prifddinas Talaith Girona, un o bedair talaith Catalwnia. Saif y ddinas yng ngogledd-ddwyrain Catalwnia, lle mae Afon Ter ac Afon Onyar yn cyfarfod. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 86,672.
Mae'r ddinas yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig, pan oedd sefydliad o'r enw Gerunda yno. Cafodd ei chyhoeddi'n ddinas gan Alfonso I, brenin Aragón yn yr 11g. Yn y 12g datblygodd cymuned Iddewig gref yma, a daeth yn ganolfan dysg Iddewig dan Rabbi Girona, Moshe ben Nahman Gerondi (mwy adnabyddus fel Nahmanides). Mae'r ghetto Iddewig yma yn awr yn atyniad i dwristiaid. Gwarchaewyd ar y ddinas 25 o weithiau, a chipiwyd hi 7 gwaith.
Mae yno brifysgol, ac mae'r maes awyr wedi tyfu yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd bod Ryanair yn ei ddefnyddio. Mae'r maes awyr yn aml yn cael ei hysbysebu fel "Barcelona"; mae dinas Barcelona rhyw awr i ffwrdd ar y bws.