Anthem a geir mewn sawl gwlad, yn arbennig y gwledydd sy'n aelod o'r Gymanwlad, yw God Save the King neu God Save the Queen. Hon yw anthem genedlaethol y Deyrnas Unedig a thiriogaethau tramor Prydain. Mae fersiwn o'r anthem hefyd yn anthem genedlaethol Ynys Norfolk, un o ddwy anthem genedlaethol Ynysoedd Caiman a Seland Newydd (ers 1977) ac anthem brenhinol Canada (ers 1980), Awstralia (ers 1984), Ynys Manaw, Jamaica, Liechtenstein, Twfalw a Norwy (Gud Sign Vår Konge God). Dyma anthem genedlaethol de facto Lloegr hefyd, er nad oes gan y wlad honno anthem genedlaethol swyddogol, a genir cyn gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol ac ar achlysuron eraill.