Math | space in mathematics, gwrthrych 3-dimensiwn |
---|---|
Rhan o | Gofod pedwar dimensiwn |
Rhagflaenwyd gan | gofod dau ddimensiwn |
Olynwyd gan | Gofod pedwar dimensiwn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn Mathemateg, mae gofod tri dimensiwn ('gofod-3', neu 'gofod 3-ddimensiwn') yn lleoliad geometrig lle nodir safle rhyw elfen (e.e. pwynt neu groesbwynt) gan dri gwerth a elwir yn "baramedrau"; dyma'r diffiniad anffurfiol.
Caiff ei gynrychioli'n gyffredin gan y symbol ℝ3.
Mewn ffiseg a mathemateg, gellir deall dilyniant o rifau a elwir yn n fel lleoliad mewn gofod n-ddimensiwn. Pan fo n = 3, gelwir y set o bob lleoliad o'r un fath yn "ofod Ewclidaidd tri dimensiwn". Mae hyn yn gweithredu fel model tri pharamedr o'r bydysawd ffisegol (hynny yw, y rhan ofodol, heb ystyried amser) lle mae pob mater sy'n hysbys yn bodoli. Ond, un enghraifft yn unig yw hwn o nifer helaeth o ofodau mewn tri dimensiwn a elwir yn "3-maniffold". Yma, pan fo tri gwerth yn cyfeirio at fesuriadau gwahanol, mewn cyfeiriadau gwahanol (h.y. cyfesurynnau), yna gellir dewis unrhyw un o'r tri chyfeiriad, cyn belled nad yw'r fectorau yn y cyfeiriadau hyn yn gorwedd yn y plân 2-ofod. Ymhellach, yn yr achos yma, gall y tri gwerth yma gael eu labelu gan unrhyw gyfuniad o'r tri term: lled, hyd ac uchder.