Person wedi'i hyfforddi'n broffesiynol i deithio i'r gofod yw gofodwr (benywaidd: gofodwraig).
Ni all dyn gamu allan i'r gofof di-aer heb siwt ofod i'w ddiogelu. Mae hon yn ei lapio yn ei awyrgylch amddiffynnol ei hun, yn rhoi ocsigen iddo anadlu, ac yn cadw'i gorff dan wasgedd. Heb y rhain byddai farw.
Y Rwsiad Yuri Gagarin (1934-1968) oedd y gofodwr cyntaf. Lansiwyd ei gapsiwl gofod, Vostok 1, ar 12 Ebrill 1961 fel rhan o raglen ofod yr Undeb Sofietaidd. Treuliodd tua 90 munud yn y gofod, digon i fynd rownd y Ddaear unwaith, cyn glanio yn yr Undeb Sofietaidd. Y cyntaf i siarad Cymraeg yn y gofod oedd Dafydd ‘Dave’ Williams, a hynny yn y 1980au.[1]
Ers taith Gagarin mae nifer o bobl wedi teithio i'r gofod, gan amlaf i gylchdroi'r Ddaear ond hefyd i fynd i'r Lleuad. Y gofodwr cyntaf i droedio'r ddaear oedd yr Americanwr Neil Armstrong, ar yr 20 Gorffennaf 1969. Mae'r rhan fwyaf o ofodwyr y dyddiau hyn yn teithio ar gerbydau fel y Wennol ofod i dreulio amser mewn gorsaf ofod sy'n cylchdroi'r Ddaear. Hyd yn hyn does neb wedi teithio y tu hwnt i'r Lleuad.
Dynion oedd y gofodwyr cynnar i gyd bron. Yr ofodwraig gyntaf oedd y cosmonaut Sofietaidd Valentina Tereshkova, a hynny yn y cerbyd gofod Vostok 6 ym Mehefin 1963. Cafodd ei hanrydeddu trwy gael ei gwneud yn Arwr yr Undeb Sofietaidd.
Americanwyr neu Rwsiaid oedd y gofodwyr cynnar i gyd bron, oherwydd y "Ras Ofod" rhwng yr Unol Daleithiau a'r hen Undeb Sofietaidd. Ers hynny mae pobl o sawl gwlad wedi dod yn ofodwyr, yn cynnwys gofodwyr o Weriniaeth Pobl Tsieina, Japan, India a Brasil. Mae gofodwyr o sawl gwlad Ewropeaidd wedi teithio i weithio ar orsafoedd gofod trwy raglenni'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, yn cynnwys rhai o'r Eidal, Gwlad Belg, Y Swistir, Ffrainc, yr Almaen a'r Iseldiroedd.