Disgrifia'r termau Gorllewin Asia a De-orllewin Asia ardal fwyaf gorllewinol Asia. Mae'r termau'n rhannol cydffiniol â'r Dwyrain Canol - a chyfeiria at leoliad daearyddol yng nghyd-destun Gorllewin Ewrop yn hytrach na'i leoliad o fewn Asia. Oherwydd y safbwynt Ewroganolog hwn, mae sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig wedi newid y term Dwyrain Canol a'r Dwyrain Agos gyda Gorllewin Asia.
Yn ogystal â gwledydd Arabaidd y Dwyrain Canol ac Israel, mae'r term Gorllewin Asia yn tueddu i gynnwys y Twrci Asiaidd (Asia Leiaf neu Anatolia), gwledydd y Cawcasws ac Iran. Prif ieithoedd y rhanbarth yma yw'r Arabeg, Cyrdeg, Perseg, a Thyrceg, ond ceir sawl iaith lai hefyd, e.e. Hebraeg, Armeneg.