Gottlob Frege | |
---|---|
Ganwyd | Friedrich Ludwig Gottlob Frege 8 Tachwedd 1848 Wismar |
Bu farw | 26 Gorffennaf 1925 Bad Kleinen |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth, cymhwysiad |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | rhesymegwr, athronydd dadansoddol, athroniaeth iaith, academydd, mathemategydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sense and reference, Begriffsschrift, The Foundations of Arithmetic |
Prif ddylanwad | Bernard Bolzano |
Priod | Margarete Katharina Sophia Anna Lieseberg |
Mathemategwr o'r Almaen a ddaeth yn rhesymegwr ac athronydd oedd Friedrich Ludwig Gottlob Frege (8 Tachwedd 1848 – 26 Gorffennaf 1925). Fe'i ystyrir yn un o sylfaenwyr rhesymeg fodern, a mawr oedd ei gyfraniad i sylfeini mathemateg. Fel athronydd, fe'i ystyrir yn un o gonglfeini athroniaeth ddadansoddol, am ei waith ar athroniaeth iaith a mathemateg. Pan gyhoeddodd ei weithiau fodd bynnag, cafodd ei anwybyddu i raddau helaeth gan y byd deallusol, ond cyflwynodd Giuseppe Peano (1858–1932) a Bertrand Russell (1872–1970) ei waith i genhedlaethau diweddarach o resymegwyr ac athronwyr.