Gradd academaidd uwchraddedig yw gradd meistr. Mae'r radd yn cymryd o leiaf un flwyddyn i'w chwblhau, a gall astudiaethau'r myfyriwr fod yn ymchwil annibynnol, yn gwrs arweiniol, neu'n gyfuniad o'r ddau fodd o ddysgu. Yn aml mae myfyriwr yn ysgrifennu traethawd estynedig er mwyn ennill y radd hon. Ymysg y pynciau y ceir graddau meistr ynddynt mae Gwyddoniaeth (MSc), Peirianneg (MEng), Gweinyddiaeth Busnes (MBA), a'r Celfyddydau (MA).