Grawnffrwyth | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Sapindales |
Teulu: | Rutaceae |
Genws: | Citrus |
Rhywogaeth: | C. × paradisi |
Enw deuenwol | |
C. × paradisi Macfad. |
Coeden isdrofannol sitrws ac arni ffrwyth ydy grawnffrwyth (Sa: grapefruit) sy'n tarddu o ynys Barbados (ble roeddent ers talwm wedi'u gwahardd)[1] ac ynysoedd eraill. Rutaceae ydy'r enw Lladin ar y teulu hwn o blanhigion. Yn Sbaeneg, defnyddir yr enwau toronja neu pomelo.
Mae'r goeden hon, fel arfer, yn tyfu i fod rhwng 5-6 metr o uchder, er y gall rhai ohonyn nhw fod cymaint â 13–15 m (43-49 troedfedd). Dail gwyrdd tywyll, hir, tenau tua 150mm (neu chwe modfedd) sydd ganddi a blodau 5 cm (2 fodfedd) gwyn gyda phedair petal ar bob un. Melyn i oren ydy'r ffrwyth, gyda diametr o 10–15 cm. Mae'r tu fewn i'r ffrwyth (sef y 'mwydion') o liwiau gwahanol hefyd, gan gynnwys gwyn, pinc a choch o felyster gwahanol.
Yn 1929 rhoddwyd breinlen (neu patent) am y tro cyntaf ar rawnffrwyth newydd.[2]
Yn y 19g y daeth y ffrwyth yn boblogaidd; cyn hynny planhigyn ornamental ydoedd. Dros nos, tyfodd UDA i fod y prif gynhyrchwr ffrwythau'r grawnffrwyth gyda perllannoedd yn Fflorida, Texas, Arizona a Califfornia.