Gwasanaeth cyhoeddus (cwmni)

Gelwir cwmni sy'n cynnal isadeiledd ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus ei hun yn wasanaeth cyhoeddus; yn aml mae hefyd yn darparu gwasanaeth sy'n defnyddio'r isadeiledd hynny. Yn aml mae gwasanaethu cyhoeddus yn gysylltiedig â monopolïau naturiol, ac o ganlyniad maent yn aml yn monopolïau llywodraethol, neu os perchennir yn breifat fe reolir y sectorau gan gomisiwn arbennig.

Gall wasanaethau cyhoeddus gael eu perchen ar yn breifat neu'n gyhoeddus. Mae gwasanaethau a berchennir yn gyhoeddus yn cynnwys gwasanaethau cydweithredol a gwsanaethau bwrdeistrefol. Cwsmeriaid sy'n cael eu gwasanaethu gan wasanaethau cydweithredol sy'n perchen arnynt; maent fel arfer mewn ardaloedd gwledig. Mae gwasanaethau bwrdesitrefol yn gwasanaethu ardaloedd trefol, ond gallent cynnwys tir tu allan i ffiniau'r ddinas neu weithiau nid ydynt hyd yn oed yn gwasanaethu'r ddinas i gyd. Fe berchennir ar wasanaethau preifat gan fuddsoddwyr. Er nad ydynt yn gwmnïau cyhoeddus, gall wasanaethau preifat cael eu rhestru ar gyfnewidfeydd stoc.


Developed by StudentB