Tiriogaeth ddaearyddol ydy gwlad. Caiff ei diffinio'n aml fel cenedl (bro ddiwylliannol) a gwladwriaeth (ardal wleidyddol). Yn nhermau cydnabyddiaeth swyddogol ar lefel ryngwladol, yn arbennig ar gyfer aelodaeth lawn o'r Cenhedloedd Unedig, rhoddir y flaenoriaeth i'r ystyr wleidyddol (er enghraifft, ni chaiff Cymru, Lloegr na'r Alban eu hystyried fel gwledydd llawn yn yr ystyr gwleidyddol fel rheol: maent yn genhedloedd a gwledydd o fewn gwladwriaeth sofran y Deyrnas Unedig, er nad yw'r Deyrnas Unedig ei hun yn genedl a bod rhai pobl yn dadlau ei bod yn wladwriaeth yn unig yn hytrach na gwlad go iawn).
Ond nid yr ystyr wleidyddol yn unig sy'n cyfrif ym marn nifer o bobl, yn arbennig o genhedloedd llai y byd. Mae diffinio gwlad felly yn bwnc dadleuol. Mae nifer o Saeson yn dadlau nad yw Cymru yn wlad, a nifer o Gymry yn dadlau ei bod hi. Yn yr un modd mae mwyafrif helaeth y Tibetiaid yn meddwl fod Tibet yn wlad. Roedd hi'n wlad annibynnol, sofran tan i Tsieina ei goresgyn yn y 1950au ac felly, ym marn y Tibetiaid a'u cefnogwyr, mae hi'n dal i fod yn wlad heddiw, er bod llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn ei hystyried yn dalaith ymreolaethol o fewn Tsieina.