Mae Gwobr Heddwch Nobel (Swedeg, Daneg a Norwyeg: Nobels fredspris) yn un o bum Gwobr Nobel a roddwyd gan y diwydiannwr a'r dyfeisiwr Swedaidd Alfred Nobel. Yn ôl ewyllys Nobel, dylid cyflwyno'r Wobr Heddwch "i'r person sydd wedi gwneud fwyaf neu'r gwaith gorau i hybu brawdgarwch ymysg cenhedloedd, i ddiddymu neu leihau byddinoedd ac am gynnal a hyrwyddo cynghreiriau heddychlon."[1]
Nododd Alfred Nobel y dylai'r wobr gael ei chyflwyno gan bwyllgor o bump o bobl i'w dewis gan Lywodraeth Norwy. Bryd hynny, roedd undeb rhwng Norwy a Sweden, a chyda Sweden yn gyfrifol am yr holl bolisi tramor, teimlai Nobel y byddai'r wobr yn llai tueddol o gael ei ddefnyddio am resymau gwleidyddol pe cawsai ei rhoi gan Norwy. Cyflwynir y Wobr Heddwch yn flynyddol yn Oslo, ym mhresenoldeb y Brenin, ar 10 Rhagfyr (sef dyddiad marwolaeth Nobel). Dyma yw'r unig Wobr Nobel na sydd yn cael ei chyflwyno yn Stockholm. Yn Oslo, cyflwyna Cadeirydd y Pwyllgor Nobel Norwyaidd y Wobr Heddwch Nobel ym mhresenoldeb Brenin Norwy. Yn llygad y cyfryngau rhyngwladol, derbynia'r enillydd Nobel (neu'r 'Llawryf' fel caiff ei alw weithiau) dri pheth: diploma, medal a dogfen sy'n cadarnhau gwerth y wobr. Cynhelir y Seremoni Gwobr Heddwch Nobel yn Neuadd y Ddinas, Oslo, a'r diwrnod canlynol cynhelir Cyngerdd Gwobr Heddwch Nobel, a ddarlledir i dros 450 miliwn o gartrefi mewn dros 150 o wledydd ledled y byd.
Weithiau, mae'r dewis o enillwyr Gwobr Heddwch Nobel yn ddadleuol, gyda honiadau o duedd gwleidyddol ac nad yw bob adeg yn gysylltiedig â heddwch e.e. cafwyd cryn anniddigrwydd gan bobl megis Mairead Corrigan pan roddwyd y Wobr i Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama. Mae'r enillwyr hefyd wedi cynnwys pobl a arferai ddefnyddio trais a therfysgaeth, ond a drodd eu cefn ar drais yn ddiweddarach er mwyn ceisio sicrhau heddwch.