Gwyneth Paltrow

Gwyneth Paltrow
GanwydGwyneth Kate Paltrow Edit this on Wikidata
27 Medi 1972 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Spence School
  • Prifysgol Califfornia, Santa Barbara
  • Crossroads School for Arts & Sciences
  • Crossroads School for Arts & Sciences Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, canwr, cerddor, actor llwyfan, actor teledu, cyfansoddwr caneuon, person busnes, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
MudiadTime's Up Edit this on Wikidata
TadBruce Paltrow Edit this on Wikidata
MamBlythe Danner Edit this on Wikidata
PriodChris Martin, Brad Falchuk Edit this on Wikidata
PartnerBrad Pitt, Ben Affleck, Robert Sean Leonard, Donovan Leitch, Luke Wilson Edit this on Wikidata
PlantMoses Martin, Apple Martin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am yr Actores Orau, Q41043454, Gwobr Crystal, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actress in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau'r Academi, Golden Globes, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr Emmy 'Primetime' Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://gwynethpaltrow.com/ Edit this on Wikidata

Actores a chantores yw Gwyneth Kate Paltrow (ganwyd 27 Medi 1972) o Los Angeles, Califfornia. Yn ferch i Brice Paltrow a Blythe Danner, gadawodd Paltrow ei chwrs prifysgol er mwyn dilyn gyrfa ym myd actio. Dechreuodd ei gyrfa yn perfformio mewn theatrau ym 1990, a chafodd ei rhan gyntaf mewn ffilm y flwyddyn ganlynol. Mae ei ffilmiau cynharaf yn cynnwys y ffilmiau llwyddiannus Se7en (1995), Emma (1996), lle chwaraeodd y prif ran, a Sliding Doors (1998). Derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei pherfformiad yn Shakespeare in Love (1998); enillodd Wobr yr Academi am yr Actores Gorau, Gwobr Golden Globe a dau o wobrau'r Chymdeithas yr Actorion Sgrîn am Brif Actores Eithriadol ac fel aelod o Gast Eithriadol, ynghyd â nifer o wobrau ac enwebiadau eraill.

Parhaodd ei llwyddiant gyda rôlau mewn ffilmiau fel The Talented Mr. Ripley (1999) a Shallow Hal (2001). Serennodd hefyd yn y ffilm Duets (2000), a gynhyrchwyd ac a gyfarwyddwyd gan ei thad Bruce Paltrow. Canodd Gwyneth Paltrow ddwy gân ar y trac sain a bu'r caneuon yn llwyddiannus mewn rhai gwledydd. Derbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn Ffilm am Proof (2005). Yn fwy diweddar, ymddangosodd yn y ffilm Iron Man (2008).

Yn aml, mae ei bywyd personol wedi derbyn llawer o sylw gan y wasg; bu'n canlyn â Brad Pitt o 1995 tan 1997, a phriododd Chris Martin, prif leisydd y band roc Seisnig Coldplay, yn 2003. Maent yn rhieni i ddau o blant, Apple Blythe Alison Martin (g. 2004) a Bruce Anthony Martin (g. 2006). Dywedodd Paltrow iddi leihau ei baich gwaith ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf. Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddwyd y byddai'r cwpl yn gwahanu ar ôl bod yn briod am ddeng mlynedd.


Developed by StudentB