Nwyon yn symud drwy'r atmosffer ydy gwynt, a hynny ar raddfa anferthol. Mae meteorolegwyr yn diffinio gwynt fel aer sy'n symud yn llorweddol a gelwir symudiad aer fertigol yn gerrynt. Ceir hefyd wynt solar, sef symudiad gronynnau wedi'u gwefru sy'n dod allan o haul. Gellir astudio yr hyn sy'n achosi gwyntoedd yn ogystal â mesur eu cyfeiriad, eu cryfder ayb. Gelwir chwa fechan o wynt yn 'awel' a gall gwyntoedd uchel mewn trowyntoedd godi i hyd at 200 mya sy'n ddigon i ddifa adeiladau cyfan.
Mae gwyntoedd y byd wedi cael effaith ar ddatblygiad dyn a'i symudiad, a'i ymlediad dros wyneb y Ddaear. Mae gallu dyn i deithio ers milenia wedi dibynnu ar y gwynt i lenwi hwyliau cychod a llongau hwylio gan ei yrru i ynysoedd a chyfandiroedd newydd. Yn y ddau gan mlynedd diwethaf, harnesodd y gwyddonydd y gwynt gan ei ddefnyddio fel ffynhonnell trydan a phwer i wneud gwaith mecanyddol.