H. G. Wells

H. G. Wells
FfugenwH. G. Wells, Reginald Bliss, Septimus Browne, Sosthenes Smith Edit this on Wikidata
GanwydHerbert George Wells Edit this on Wikidata
21 Medi 1866 Edit this on Wikidata
Bromley Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 1946 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
AddysgDoethur Nauk mewn Bioleg Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, hanesydd, newyddiadurwr, siaradwr Ido, awdur ffuglen wyddonol, nofelydd, cymdeithasegydd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Swyddllywydd corfforaeth Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Outline of History, Y Peiriant Amser, The Invisible Man, The Island of Dr Moreau, The War of the Worlds, The First Men in the Moon, The Shape of Things to Come, Marriage, The Soul of a Bishop Edit this on Wikidata
Arddullgwyddonias, cofiant, traethawd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadJoseph Wells Edit this on Wikidata
MamSarah Neal Edit this on Wikidata
PriodIsabel Mary Wells, Catherine Wells Edit this on Wikidata
PartnerAmber Reeves, Rebecca West, Margaret Sanger, Odette Keun, Moura Budberg, Elizabeth von Arnim Edit this on Wikidata
PlantAnthony West, George Philip Wells, Frank Wells Edit this on Wikidata
Gwobr/auHall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias Edit this on Wikidata
llofnod
Wells c. 1890.

Nofelydd yn yr iaith Saesneg oedd Herbert George Wells (21 Medi 1866 - 13 Awst 1946). Roedd yn fwy adnabyddus o dan yr enw H. G. Wells a chaiff ei ystyried fel un o'r llenorion gwyddonias cyntaf. Yn aml, cyfeirir at Wells a Jules Verne fel "Tadau Gwyddonias".[1]

Roedd Wells yn heddychwr ac yn sosialydd blaengar, a daeth ei weithiau diweddarach yn fwyfwy gwleidyddol. Roedd ei nofelau o ganol y cyfnod yr ysgrifennai (1900-1920) yn fwy realistig; ymdrinient â bywydau'r bobl ar waelod y dosbarth canol (The History of Mr Polly) a'r 'New Woman' a'r Suffragettes (Ann Veronica). Roedd yn ysgrifennwr toreithiog mewn nifer o ffurfiau ysgrifennu gwahanol, gan gynnwys nofelau cyfoes, hanesyddol a sylwebaeth gymdeithasol.

  1. Steven H Gale, gol. (1996). Encyclopedia of British Humorists: Geoffrey Chaucer to John Cleese (yn Saesneg). Garland. t. 1195. ISBN 0824059905.

Developed by StudentB