Mewn athroniaeth, defnyddir y cysyniad Groegaidd o eudaimonia i gyfeirio at hapusrwydd, a olygir y bywyd da, llewyrchus, yn hytrach nag emosiwn o reidrwydd.
Mewn seicoleg, mae hapusrwydd yn stad feddyliol neu emosiynol o les unigolyn a ellir ei ddiffinio gan, ymysg eraill, emosiynau cadarnhaol neu ddymunol sy'n amrywio o fodlonrwydd i lawenydd dwys.[1] Gall stadau meddyliol hapus adlewyrchu rhagfarnau gan berson am ei les cyffredinol.[2]
Ers yr 1960au, cynhaliwyd ymchwil ar hapusrwydd mewn sawl maes gwyddonol, yn cynnwys seicoleg gymdeithasol, clinigol, ymchwil meddygol ac economeg hapusrwydd.