Harri VII, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ionawr 1457 Castell Penfro |
Bu farw | 21 Ebrill 1509 Palas Richmond |
Swydd | teyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon |
Tad | Edmwnd Tudur |
Mam | Margaret Beaufort |
Priod | Elisabeth o Efrog |
Partner | Llydawes anhysbys (?) |
Plant | Arthur Tudur, Marged Tudur, Harri VIII, Elisabeth Tudur, Mari Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Gwlad yr Haf, Edward Tudur, Catrin Tudur, Rowland Filfel |
Llinach | Tuduriaid |
llofnod | |
Roedd Harri Tudur (Saesneg Henry Tudor), y brenin Harri VII o Loegr (28 Ionawr 1457 - 21 Ebrill 1509), yn frenin teyrnas Lloegr o 1485 hyd at ei farwolaeth. Mab Edmwnd Tudur, un o feibion Owain Tudur a Margaret Beaufort oedd Harri; roedd Siasbar Tudur yn frawd i'w dad. Yng nghastell Penfro, pencadlys ei ewythr Siasbar yn Sir Benfro y cafodd ei eni a'i fagu.
Daeth yn frenin Lloegr yn 1485 ar ôl ennill Brwydr Maes Bosworth a churo'r brenin Rhisiart III a laddwyd ar y maes ar ôl y frwydr. Cynrychiolai blaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid yn rhan olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond, maes o law, llwyddodd i uno'r ddwy blaid a rhoi terfyn ar y rhyfel drwy briodi aeres Iorcaidd - Elisabeth o Efrog. Bregus iawn oedd ei hawl i fod yn frenin Lloegr, ond medrai aros mewn grym drwy ei ddoniau gwleidyddol. Llwyddodd i greu perthynas dda rhwng Lloegr â'r Alban drwy drefnu priodas ei ferch Marged â'r brenin Iago IV, brenin yr Alban.
Elisabeth o Efrog oedd ei wraig.