Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw, iaith |
---|---|
Math | Ieithoedd Canaanaidd, ieithoedd Iddewig |
Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 2. CC |
Enw brodorol | עברית |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | he |
cod ISO 639-2 | heb |
cod ISO 639-3 | heb |
Gwladwriaeth | Israel |
System ysgrifennu | Yr wyddor Hebraeg |
Corff rheoleiddio | Academi'r Iaith Hebraeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Hebraeg yn iaith Semitaidd a siaredir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn Israel a thros y byd. Iaith wreiddiol yr ysgrythurau Iddewig (Hen Destament y Beibl Cristnogol) yw Hebraeg Beiblaidd (neu Glasurol). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr 2g OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y 19g a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr 20g.[4] Y person a briodolir, neu gysylltir fwyaf gydag adfywiad yr iaith yw Eliezer Ben-Yehuda.
Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae Iddew-Almaeneg neu Yiddish-Daitsch a Ladino (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.
Un o wyrthiau ieithyddol yr 20g oedd adfywiad Hebraeg, na bu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i Israel, o Ewrop, Unol Daleithiau America, yr hen Undeb Sofietaidd ac Affrica, er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau Wlpan. Mae llyfr gan Norman Berdichevsky, 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.[5]
Ysgrifennir Hebraeg yn ei gwyddor ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 cymeriad yn yr wyddor, pob un yn gytsain. Dynodir llafariaid gan system o nodau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.
Ymhlith cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Hebraeg fodern y mae;