Teitl amgen | Hedd Wyn – The Armageddon Poet |
---|---|
Cyfarwyddwr | Paul Turner |
Cynhyrchydd | Shân Davies |
Ysgrifennwr | Alan Llwyd Paul Turner |
Cerddoriaeth | John E. R. Hardy |
Sinematograffeg | Ray Orton |
Sain | Julie Ankerson |
Dylunio | Jane Roberts Martin Morley |
Cwmni cynhyrchu | Pendefig Cyf. |
Amser rhedeg | 123 munud |
Ffilm Gymraeg am fywyd y bardd Hedd Wyn yw Hedd Wyn. Cafodd ei henwebu am Oscar ym 1994. Huw Garmon sy'n serennu fel Hedd Wyn. Cynhyrchwyd y ffilm yng Nghymru gan gwmni Pendefig Cyf dan ofal y cyfarwyddwr Paul Turner.
Sgriptiwyd y ffilm gan y bardd Alan Llwyd, awdur y gyfrol Gwae fi fy myw, cofiant Hedd Wyn. Cafodd llawer o'r golygfeydd eu saethu ar leoliad yn ardal Trawsfynydd, de Gwynedd, pentref genedigol Hedd Wyn. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y golygfeydd swynol o gefn gwlad bugeiliol Meirion a'r golygfeydd cignoeth o erchylltra'r ymladd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, lle lladdwyd Hedd Wyn, yn un o gryfderau'r ffilm.
Rhyddhawyd y ffilm ar DVD yn 2005 mewn casgliad o ffilmiau gan S4C ac mae ar gael i'w wylio ar lein am ddim.