Mae Hen Oes y Cerrig Canol neu ar lafar Paleo Canol (Saesneg: (Middle Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: yr ail raniad sy'n rhychwantu'r cyfnod rhwng 300,000 (225,000 yng Nghymru) a 50,000 cyn y presennol (CP). Caiff ei ragflaenu gan Hen Oes y Cerrig Isaf a'i ddilyn gan Hen Oes y Cerrig Uchaf (Upper) - 50,000-10,000.
Cychwynodd dyn modern fudo o Affrica 70,000 o flynyddoedd yn ôl a chychwynodd gymryd drosodd oddi wrth y rhywogaeth homo cynharach megis y Neanderthal a'r homo erectws.[1]
Yr hyn sy'n newydd ac yn wahanol yn y cyfnod hwn o'i gymharu gyda'r Hen Oes y Cerrig Isaf cynharach oedd defodau claddu newydd mewn llefydd fel Combe-Grenal a Abri Moula yn Ffrainc, ble ceir esgyrn wedi'u hysgythru gydag erfyn finiog. Mae hyn yn dangos fod defodau ynghlwm â'r claddu, ac o bosib yn dangos fod dyn, am y tro cyntaf, yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth.
Yn y cyfnod hwn hefyd darganfuwyd breichledau yn Ogof Blombos,[2] mwclis,[3] celf carreg,[4] ocr ar y corff a defod crefyddol,[4][5] er bod peth celf cyn y cyfnod hwn. Cynyddodd gweithgareddau megis pysgota a hela anifeiliaid mawr, a hynny gydag offer pwrpasol ac mewn grwpiau'n cydweithio efo'i gilydd.