Hen Wyddeleg yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r Wyddeleg yn ei ffurf gynharaf. Datblygodd Hen Wyddeleg fel cangheniaith o'r Oedeleg (Goidelg), yn yr un modd ag y datblygodd y Gymraeg (a'r Gernyweg) allan o'r Frythoneg (chwaer gangen Gelteg yr Oedeleg). Mae'n anodd pennu dyddiad pendant i'w dechreuad, ond erbyn y 5ed a'r 6g gwelwn y Wyddeleg yn cael ei hysgrifennu yn yr arysgrifau ogam sydd ar gael ar feini yn Iwerddon a Chymru. Gelwir yr enghraifftiau cynnar prin yn Wyddeleg Cynnar. Troes Gwyddeleg Cynnar yn Hen Wyddeleg gydag amser. Parhaodd fel Hen Wyddeleg tan ddiwedd y 9g pan droes yn raddol yn Wyddeleg Canol.
Yn ogystal â'r meini ogam, ein prif ffynonellau am yr Hen Wyddeleg yw glosau cynnar (geiriau neu frawddegau yn y Wyddeleg ar ymyl llawysgrifau yn esbonio, cyfieithu neu egluro testun Lladin). Fel mae'n digwydd, mae'r mwyafrif o'r glosau hyn i'w cael mewn llawysgrifau cyfandirol a ysgrifennwyd yng nghanolfannau dysg gorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol Cynnar; mae'r llawysgrifau pwysicaf yn gysylltiedig â mynachlogydd Würzburg, Milan, Torino a St. Gall ac yn brawf o bresenoldeb mynachod ac ysgolheigion o Iwerddon yn y sefydliadau hynny.