Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | Affganistan, Pacistan |
Uwch y môr | 7,708 metr |
Cyfesurynnau | 35°N 71°E |
Mynyddoedd yng ngogledd-ddwyrain Affganistan a gogledd Pacistan yw'r Hindu Kush[1] (Perseg: هندوکش, Hindi: हिन्दु कुश). Yn ôl y daearyddwr Arabaidd Ibn Battuta (1304-1368) yn ei lyfr Teithiau yn Asia, ystyr yr enw yw "lladdwr yr Hindwaid"; pan fyddai caethweision yn cael eu dwyn o India, byddai llawer ohonynt yn marw wrth groesi'r mynyddoedd hyn. Yn ogystal â rhannau gogledd-ddwyreiniol Affganistan, mae'r Hindu Kush yn cynnwys rhan o Khyber-Pakhtunkhwa a Gilgit–Baltistan dros y ffin ym Mhacistan. Yn ddaearegol, mae'n cyfrif fel estyniad mwyaf gorllewinol mynyddoedd Pamir, cadwyn Karakoram, a'r Himalaya.