Math | sir an-fetropolitan, siroedd seremonïol Lloegr, cyn endid gweinyddol tiriogaethol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.8°N 0.5°W |
Sir yn rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Humberside. Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o rannau o'r hen Riding Dwyreiniol Swydd Efrog, Riding Gorllewinol Swydd Efrog a Swydd Lincoln ar bob ochr Afon Humber, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996.
Roedd gan y sir arwynebedd o 3,512 km² gyda poblogaeth o 845,280 yng nghyfrifiad 1981. Roedd yn ffinio Gogledd Swydd Efrog i'r gogledd ac i'r gorllewin, De Swydd Efrog a Swydd Nottingham i'r de-orllewin, Swydd Lincoln i'r de, a Môr y Gogledd i'r dwyrain. Dinas Kingston upon Hull oedd ei haneddiad mwyaf, ac roedd ei phencadlys yn nhref Beverley.
Rhennid y sir yn naw ardal an-fetropolitan:
|
Nid oedd y sir newydd erioed yn boblogaidd, yn enwedig yn y rhan a fu gynt yn rhan o Swydd Efrog, a oedd yn cynnal ymdeimlad cryf o hunaniaeth. Hyd yn oed ar ôl agor Pont Humber ym 1981 roedd yn anodd cyfathrebu rhwng gogledd a de'r sir.
Diddymwyd y sir ym 1996. Fe'i disodlwyd gan bedwar awdurdod unedol:
Avon · Berkshire · Caint · Cernyw · Cleveland · Cumbria · De Swydd Efrog · Dinas Llundain · Dorset · Dwyrain Sussex · Dyfnaint · Essex · Glannau Merswy · Gogledd Swydd Efrog · Gorllewin Canolbarth Lloegr · Gorllewin Sussex · Gorllewin Swydd Efrog · Gwlad yr Haf · Hampshire · Henffordd a Chaerwrangon · Humberside · Llundain Fwyaf · Manceinion Fwyaf · Norfolk · Northumberland · Suffolk · Surrey · Swydd Amwythig · Swydd Bedford · Swydd Buckingham · Swydd Derby · Swydd Durham · Swydd Gaer · Swydd Gaergrawnt · Swydd Gaerhirfryn · Swydd Gaerloyw · Swydd Gaerlŷr · Swydd Hertford · Swydd Lincoln · Swydd Northampton · Swydd Nottingham · Swydd Rydychen · Swydd Stafford · Swydd Warwick · Tyne a Wear · Wiltshire · Ynys Wyth