Hwyaden Anatidae | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae (rhan) |
Is-deuluoedd | |
Dendrocygninae |
Aderyn dŵr cyfandroed yw hwyaden, hwyad neu yng ngogledd Cymru: chwaden. Mae dros 120 o rywogaethau ledled y byd. Dyma'r teulu Anatidae ynghyd ag elyrch a gwyddau.[1] O ran maint mae'r hwyaden ychydig yn llai na'r alarch a'r ŵydd - ill dau hefyd yn aelodau o'r un teulu, Anatidae.[2] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Anseriformes.[3][4]
Eu cynefin arferol yw dŵr a thir gwlyb. Maen nhw'n medru byw mewn dŵr hallt a dŵr croyw.[1]