Iago fab Sebedeus

Iago fab Sebedeus
Ganwyd1 g Edit this on Wikidata
Bethsaida Edit this on Wikidata
Bu farw44 Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethpysgotwr, cenhadwr Edit this on Wikidata
SwyddApostol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl25 Gorffennaf, 30 Ebrill, 30 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadSebedeus Edit this on Wikidata
MamSalome Edit this on Wikidata
PriodUnknown Edit this on Wikidata
Am bobl a chymeriadau eraill sy'n dwyn yr enw Iago, gweler Iago (gwahaniaethu)

Un o'r deuddeg Apostol oedd Iago fab Sebedeus neu Sant Iago (bu farw 44). Roedd yn fab i Sebedeus a Salome, ac yn frawd i Ioan. Dywedir ei fod ef a'r frawd yn bysgotwyr ar lan Môr Galilea pan alwyd hwy gan Iesu fel disgyblion.

Darlun o Sant Iago gan Rembrandt.

Yn diweddarach, cofnodir yn Actau'r Apostolion i Herod Agrippa ddienyddio Iago a chleddyf. Yn ôl y traddodiad, aethpwyd a'i weddillion i'w claddu i Santiago de Compostela yn Galicia yng ngogledd-orllewin Sbaen. Daeth Iago yn nawdd-sant Sbaen, ac ystyrir Santiago de Compostela gan Gatholigion fel trydedd dinas sanctaidd, ar ôl Jeriwsalem a Rhufain. Mae'r ddinas wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i bererinion o'r Canol Oesoedd ymlaen.

Eglwys Gadeiriol Sant Iago, Santiago de Compostela

Developed by StudentB