Enghraifft o'r canlynol | iaith, macroiaith, iaith fyw |
---|---|
Math | tafodieithau Uwch-Germanig, ieithoedd Iddewig, Germaneg Gorllewinol |
Rhan o | diwylliant Iddewig, ieithoedd di-diriogaethol Ffrainc |
Yn cynnwys | Iddew-Almaeneg Ewropeaidd, Iddew-Almaeneg Israelaidd, Iddew-Almaeneg Dwyreiniol, Iddew-Almaeneg Gorllewinol, Iddew-Almaeneg Litvish |
Enw brodorol | יידיש |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | yi |
cod ISO 639-2 | yid |
cod ISO 639-3 | yid |
Gwladwriaeth | Awstralia, Awstria, yr Ariannin, Belarws, Gwlad Belg, Bosnia a Hertsegofina, Brasil, y Deyrnas Unedig, Hwngari, yr Almaen, Israel, Canada, Costa Rica, Latfia, Lithwania, Mecsico, Moldofa, Yr Iseldiroedd, Panamâ, Gwlad Pwyl, Rwsia, Rwmania, Unol Daleithiau America, Wcráin, Wrwgwái, Ffrainc, Y Swistir, Sweden, Estonia, De Affrica |
System ysgrifennu | Wyddor sgript Hebraeg, Yr wyddor Hebraeg |
Corff rheoleiddio | Sefydliad Ymchwil Iddewig Yivo |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith o darddiad Uchel Almaeneg yr Iddewon Ashcenasi yw Iddew-Almaeneg neu Iddeweg (ייִדיש yidish neu אידיש idish, sef "Iddewig"). Yn hanesyddol, mae nifer o enwau bod wedi arni gan gynnwys: Taytsh (Almaeneg), Yidish-taytsh (Almaeneg-Iddewig), Loshn-ashkenaz (Iaith Ashkenaz), a Zhargon (Bratiaith).[2] Fe'i siaredir heddiw gan gymunedau Iddewig ar draws y byd. Datblygodd yr iaith yng nghanolbarth Ewrop, wrth i gymunedau Iddewig fabwysiadu'r tafodieithoedd Almaeneg o'u cwmpas yn iaith bob dydd. Roedd yr Hebraeg yn parhau i fod yn iaith ddefosiynol iddynt. Cred rhai i'r cymunedau hyn symud yn wreiddiol o ardaloedd lle siaredid ieithoedd Romawns yn ne Ffrainc a gogledd yr Eidal ac mae peth dylanwad o'r ieithoedd hynny arni o hyd.[3] Ond mae damcaniaethau eraill.
Mae dylanwad yr Hebraeg a'r Aramaeg arni yn amlwg o'r wyddor Hebraeg a ddefnyddir i'w hysgrifennu yn ogystal â chyfran helaeth o eirfa'r iaith. Wrth i'r cymunedau hyn symud i ddwyrain Ewrop, bu'r ieithoedd Slafonaidd yn ddylanwad arni hefyd. [4][5] Amcangyfrifir bod tua 70% o'r eirfa yn Almaenig, 25% yn dod o Hebraeg-Aramaeg (לשון קדש trawslyth. 'loshn koydesh', cyf. 'yr iaith sanctaidd'), a 5% yn dod o'r ieithoedd Slafonaidd, ac ychydig iawn o'r ieithoedd Romawns.[6]
Fe'i hysgrifennir yn yr wyddor Hebraeg gyda rhai addasiadau. Daeth y dull cyfoes o ysgrifennu'r iaith i arfer tua 1900 ond cyflwynwyd nifer o ddiwygiadau yn ystod cyfnod y Rhyfel byd Cyntaf. Ym 1937,sefydlodd Sefydliad Ymchwil Iddewig (YIVO) y rheolau a ystyrir yn safonol. Dyna a ddefnyddir i ysgrifennu'r rhan fwyaf o bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau seciwlar, yn ogystal â chyrsiau iaith mewn prifysgolion a lleoedd eraill. Ond mae'r wasg a chyhoeddwyr Hasidig yn tueddu i gadw at orgraff sy'n drwm o dan ddylanwad yr Almaeneg ac a oedd yn gyffredin yn niwedd y 19g. a dechrau'r 20g. Dyna'r orgraff a hyrwyddwyd gan y Maskilim (Iddewon yr Oleuedigaeth). Mae YIVO hefyd wedi datblygu ffordd safonol o ysgrifennu'r iaith mewn llythrennau Lladin.[7]
|access-date=
(help)
|access-date=
(help)