Casgliad neu system o gysyniadau, syniadau a chredoau yw ideoleg[1] neu ddelfrydeg.[2] Bathwyd y term idéologie gan yr athronydd o Ffrancwr Antoine Destutt de Tracy ym 1796 i ddiffinio "gwyddor syniadau".[3] Maent yn gysyniad unigryw i wleidyddiaeth; sonir am ideolegau economaidd, ond mae'r rhain ynghlwm wrth farnau a chredoau gwleidyddol a chymdeithasol, ac nid o reidrwydd damcaniaeth economaidd.
Cyfuniad o syniadaeth ddisgrifiadol a normadol, neu wleidyddeg a gwleidydda, yw ideoleg. Tair nodwedd sylfaenol sydd i'r ideoleg benodol: beirniadaeth ar y drefn sy'n bod, gweledigaeth o gymdeithas y dyfodol, a damcaniaeth o newid gwleidyddol. Amlinellir casgliad o farnau a syniadau, yn aml yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd personol a chymdeithasol, gan ysbrydoli gweithredu gwleidyddol er mwyn ennill amcanion i roi'r agenda ddelfrydol ar waith.[4]
Nid yw pawb yn gytûn ar ddiffiniad y gair ideoleg a pha syniadau ac agweddau gwleidyddol sy'n dod o dan y label hon. Er enghraifft, dadleua nifer o geidwadwyr pragmataidd taw tuedd neu agwedd meddwl yw ceidwadaeth, ac nid ideoleg.[4]