Ieitheg

Mae'r term ieitheg yn cyfeirio at yr astudiaeth o iaith benodedig ynghyd â'i llenyddiaeth a'r cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol sy'n anhepgor er mwyn deall gweithiau llenyddol a thestunau pwysig eraill yr iaith honno. Felly mae ieitheg yn cynnwys gramadeg, rhethreg, hanes, dehongli awduron, a'r traddodiadau beirniadaeth sydd yn gysylltiedig â'r iaith.


Developed by StudentB