Math | Ymarfer corff, Ymarfer ysbrydol, therapi corff-a-meddwl, difyrwaith |
---|---|
Gwlad | India |
Rhan o | etifeddiaeth ddiwylliannol na ellir ei chyffwrdd |
Yn cynnwys | asana, Pranayama, myfyrdod |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgyblaethau traddodial meddyliol a chorfforol sy'n tarddu o India yw ioga[1] (Sansgrit, Pāli: योग yóga).[2][3] Mae ioga hefyd yn un o chwe ysgol uniongred (āstika) athroniaeth Hindŵ, ac at y nod mae'r ygol hwnnw yn anelu ati.[4][5] Mae hefyd yn cyfeirio at y swm o'r holl weithgareddau meddyliol, llafar a chorfforol yn Jainiaeth.
Gelwir gwahanol safleoedd neu siap y corff yn asana a cheir rhai cannoedd ohonynt.
Mae prif ganghennau ioga yn athroniaeth Hindŵ yn cynnwys Ioga Rāja, Ioga Karma, Ioga Jnana, Ioga Bhakti, a Ioga Hatha.[6][7][8] Caiff Ioga Raja ei grynhoi yn Swtrâu Ioga Patanjali, ac adnabyddir yn syml fel Ioga yng nghyd-destun athroniaeth Hindŵ, ac mae'n ran o draddodiad Samkhya[4] Mae nifer o destunau Hindŵ yn trafod agweddau o ioga, gan gynnwys Upanishadau, y Bhagavad Gita, y Pradipika Ioga Hatha, y Shiva Samhita ac amryw o dantrâu.
Mae gan y gair Sansgrit "ioga" sawl ystyr,[9] ac mae'n tarddu o'r gwraidd Sansgrit yuj, sy'n golygu "i reoli", "i ieuo" neu "i uno".[10] Mae cyfeiithiadau'n cynnwyr "ymuno", "cyfuno", "undeb", "cysylltair", a "modd".[9] Yn gyffredinol tu allan i India, mae'r term ioga yn cael ei gysylltu â Ioga Hatha a'i asanas (ymddaliadau) neu fel ffurf o ymarfer corff. Gelwir un sy'n ymarfer ioga neu'n dilyn athroniaeth ioga yn iogi.[11][12]
Nid oes consensws ar gronoleg na gwreiddiau ioga heblaw ei fod wedi datblygu yn yr India hynafol. Mae dwy ddamcaniaeth eang yn egluro gwreiddiau ioga. Yn gyntaf, mae'r model llinellol yn dadlau bod gan ioga darddiad Aryan, fel yr adlewyrchir yn y corpws testunol Vedig, ac a ddylanwadodd ar Fwdhaeth. Cefnogir y model hwn yn bennaf gan ysgolheigion Hindŵaidd.[13] Mae'r model hwn yn cael ei ffafrio gan ysgolheictod dwyreiniol. Yr ail ddamcaniaeth yw bod ioga'n synthesis o arferion cynhenid, nad ydynt yn Aryan gydag elfennau Aryan. Mae'r model hwn yn cael ei ffafrio gan ysgolheictod y gorllewin.[13]
Cyfansoddwyd yr Upanishad, ar ddiwedd y cyfnod Vedic, ac mae nhw'n cynnwys y cyfeiriadau cyntaf at arferion y gellir eu hadnabod fel ioga clasurol.[14] Mae ymddangosiad cyntaf y gair "ioga", gyda'r un ystyr â'r term modern, yn y Katha Upanishad,[15][16] a gyfansoddwyd yn ôl pob tebyg rhwng y 5g a'r 3g CC,[17][18] lle caiff ei ddiffinio fel rheolaeth gyson ar y synhwyrau, ac atal gweithgaredd meddyliol, s'n arwain at gyflwr uwchnaturiol.[16][20] Mae'n diffinio lefelau amrywiol o fodolaeth (neu gyflwr). Felly mae yoga yn cael ei ystyried yn broses o fewnoli neu o esgyniad.[21][22] Dyma'r gwaith llenyddol cynharaf sy'n tynnu sylw at hanfodion ioga.
Mae'r term "yoga" yn y byd Gorllewinol yn aml yn dynodi ffurf fodern o hatha ioga a thechneg ffitrwydd corfforol, lleddfu straen ac ymlacio ar sail osgo'r corff,[23] sy'n cynnwys yr asanas yn bennaf [24] mewn cyferbyniad ag ioga traddodiadol, sy'n canolbwyntio ar fyfyrio ac ymneilltuo o bethau bydol.[23][25] Fe’i cyflwynwyd gan gwrws o India, yn dilyn llwyddiant addasiad Vivekananda o ioga heb asanas ar ddiwedd y 19g a dechrau’r 20g,[26] a gyflwynodd Ioga Swtra i’r Gorllewin. Enillodd yr Ioga Swtra amlygrwydd yn yr 20g yn dilyn llwyddiant Ioga hatha.[27]
Mae dosbarthu asanas i grwpiau cyffredinol yn newid o ysgol i ysgol, ond, yn fras, mae'r canlynol yn eitha cyffredin:
Rhaid cofio fod ambell asana'n perthyn i fwy nag un grwp. Ceir hefyd grwp o asanas a ddefnyddir i fyfyrio.