Iolo Morganwg | |
---|---|
Ffugenw | Iolo Morganwg |
Ganwyd | 10 Mawrth 1747 Llancarfan |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1826 Trefflemin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gwerthwr hen greiriau, llenor, hynafiaethydd, ffermwr, counterfeiter |
Plant | Taliesin Williams, Margaret Williams |
Bardd a hynafiaethydd o Gymru oedd Edward Williams (10 Mawrth 1747 – 18 Rhagfyr 1826), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Iolo Morganwg. Fel sylfaenydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ef sy'n gyfrifol am wreiddiau prif seremonïau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif, drwy waith ysgolheigaidd Griffith John Williams, yn bennaf, y daeth yn hysbys ei fod yn un o'r ffugwyr llenyddol mwyaf cynhyrchiol a llwyddiannus erioed, a bod nifer fawr o'i "ddarganfyddiadau" newn gwirionedd yn ddyfeisiadau ei ddychymyg ei hun, gan gynnwys Coelbren y Beirdd, yr honnai Iolo ei fod yn wyddor hynafol beirdd Ynys Prydain.[1][2][3][4]