Iorwerth Drwyndwn | |
---|---|
Ganwyd | 1145 |
Bu farw | 1174 |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Owain Gwynedd |
Mam | Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn |
Priod | Marared ferch Madog |
Plant | Llywelyn Fawr |
Iorwerth Drwyndwn neu Iorwerth ab Owain Gwynedd (fl. ail hanner y 12g) oedd tad Llywelyn Fawr a hendaid Llywelyn ap Gruffudd ar ochr ei dad. Mae'n bosibl fod ei lysenw, a ddefnyddid yn gyffredinol, yn cyfeirio at nam ar ei drwyn neu anaf mewn brwydr. Os nam naturiol oedd ar ei drwyn byddai hyn yn ei amddifadu o'r hawl i olynu ei dad fel brenin Gwynedd, er ei fod yr hynaf o feibion cyfreithlon Owain Gwynedd (yn ôl y Cyfreithiau roedd rhaid i frenin fod yn ddi-nam).