Gweriniaeth Islamaidd Iran جمهوری اسلامی ايران (Persieg) Jomhuri-ye Eslāmi-ye Irān | |
Arwyddair | استقلال، آزادی، جمهوری اسلامی |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, Gweriniaeth Islamaidd, gwlad, gwladwriaeth olynol |
Enwyd ar ôl | Aryan |
Prifddinas | Tehran |
Poblogaeth | 86,758,304 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem Genedlaethol Gweriniaeth Islamaidd Iran |
Pennaeth llywodraeth | Masoud Pezeshkian |
Cylchfa amser | UTC+03:30, Cylchfa Amser Iran, Asia/Tehran |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Perseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, De Asia |
Gwlad | Iran |
Arwynebedd | 1,648,195 ±1 km² |
Gerllaw | Môr Caspia, Gwlff Persia, Gwlff Oman |
Yn ffinio gyda | Affganistan, Pacistan, Twrci, Irac, Aserbaijan, Armenia, Tyrcmenistan, Gweriniaeth Ymreolaethol Nakhchivan, Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Oman, Catar, Yr Emiradau Arabaidd Unedig |
Cyfesurynnau | 32°N 53°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Iran |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Ymgynghorol Islamaidd |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Prif Arweinydd Aran |
Pennaeth y wladwriaeth | Ali Khamenei |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Gweriniaeth Islamaidd Iran |
Pennaeth y Llywodraeth | Masoud Pezeshkian |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $359,097 million, $388,544 million |
Arian | rial Iranaidd |
Cyfartaledd plant | 1.707 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.774 |
Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfri'n rhan o'r Dwyrain Canol yw Iran (Persieg: ایران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia.[1] Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad, a'r ddinas fwyaf. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.
Mae Iran yn gartref i un o wareiddiadau hyna'r byd,[2][3], gan ddechrau gyda ffurfiad teyrnasoedd yr Elamite yn y bedwaredd mileniwm CC. Cafodd ei uno gyntaf gan y Mediaid yn y 7g CC, a a thyfodd i'w hanterth (yn diriogaethol) yn y 6g CC, pan sefydlodd Cyrus Fawr yr Ymerodraeth Achaemenaidd, a ddaeth yn un o'r ymerodraethau mwyaf mewn hanes a'r ymerodraeth 'superpower' gyntaf yn y byd.[4]
Syrthiodd yr ymerodraeth i Alecsander Fawr yn y 4g CC ac fe'i rhannwyd yn sawl gwladwriaeth Hellenistig. Sefydlodd gwrthryfel yn Iran Ymerodraeth Parthian yn y 3g CC, a olynwyd yn y drydedd ganrif OC gan yr Ymerodraeth Sassanaidd, pŵer mwya'r byd am y pedair canrif nesaf.[5][6] Gorchfygodd Mwslimiaid Arabaidd yr ymerodraeth yn y 7g OC, a arweiniodd at Islameiddio Iran. Wedi hynny daeth yn brif ganolfan diwylliant a dysgu Islamaidd, gyda'i chelf, llenyddiaeth, athroniaeth, a phensaernïaeth yn ymledu ar draws y byd Mwslemaidd a thu hwnt yn ystod yr Oes Aur Islamaidd. Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth cyfres o linachoedd Mwslimaidd brodorol i'r amlwg cyn i'r Twrciaid Seljuq a'r Mongols orchfygu'r rhanbarth.
Yn y 15g, ailsefydlodd y Safavids brodorol wladwriaeth unedig Iran a hunaniaeth genedlaethol a throsi'r wlad yn Islam Shia.[7] O dan deyrnasiad Nader Shah yn y 18g, daeth Iran yn bwer mawr yn y byd unwaith eto,[8] ond erbyn y 19g arweiniodd cyfres o wrthdaro â Rwsia at golledion tiriogaethol sylweddol.[9][10] Yn gynnar yn yr 20g cafwyd Chwyldro Cyfansoddiadol Persia. Arweiniodd ymdrechion i wladoli ei gyflenwad tanwydd ffosil gan gwmnïau’r Gorllewin at coup Eingl-Americanaidd ym 1953, a arweiniodd at fwy o reolaeth unbenaethol o dan Mohammad Reza Pahlavi a dylanwad gwleidyddol cynyddol y Gorllewin.[11] Aeth ati i lansio cyfres bellgyrhaeddol o ddiwygiadau ym 1963.[12] Ar ôl Chwyldro Islamaidd Iran, sefydlwyd y Weriniaeth Islamaidd bresennol ym 1979 gan Ruhollah Khomeini, a ddaeth yn Arweinydd Goruchaf cynta'r wlad.
Ystyrir yn eang bod llywodraeth Iran yn awdurdodaidd, ac mae wedi denu beirniadaeth eang am ei chyfyngiadau a'i cham-driniaeth yn erbyn hawliau dynol a rhyddid sifil,[13][14][15][16] gan gynnwys honiadau o sawl ymateb treisgar i brotestiadau torfol, etholiadau annheg., a hawliau cyfyngedig i fenywod a phlant.
Caiff Iran ei hystyried yn bwer rhanbarthol a chanolig, ac mae ei lleoliad yn cael ei gyfri'n strategol ac yn ddaear-wleidyddol (geopolitaidd) ar gyfandir Asia. Mae'n aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, yr ECO, yr OIC, ac OPEC. Mae gan y wlad gronfeydd wrth gefn enfawr o danwydd ffosil - gan gynnwys cyflenwad nwy naturiol ail-fwya'r byd a'r bedwaredd gronfa olew fwyaf.[17] Adlewyrchir etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad yn rhannol gan ei 22 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.[18] Mae Iran yn parhau i fod yn gymdeithas luosog sy'n cynnwys nifer o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol, a'r mwyaf ohonyn nhw yw'r Persiaid, yr Azeris, y Cwrdiaid, y Mazandaranis a'r Lurs.[19]
" "Iran" and "Persia" are synonymous" The former has always been used by the Iranian speaking peoples themselves, while the latter has served as the international name of the country in various languages